BBC yng Nghaerdydd
Mae BBC Cymru wedi cydnabod na wnaeth ymchwiliad rhaglen Week In Week Out i’r Safonau Iaith newydd “archwilio’r gwahanol safbwyntiau yn ddigonol.”

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru hefyd eu bod wedi derbyn “nifer o gwynion” am y rhaglen.

Ond meddai Cymdeithas yr Iaith eu bod yn teimlo bod problemau ehangach am ymdriniaeth BBC Cymru o faterion sy’n ymwneud a’r Gymraeg o fewn BBC Cymru.

Yn dilyn cyfarfod gyda chyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies heddiw, mae’r mudiad hefyd wedi pwyso arno i drefnu cyrsiau ymwybyddiaeth iaith i’w holl staff.

Cyfarfod

 

Yn gynharach heddiw, roedd Rhodri Talfan Davies wedi cytuno i gyfarfod ag ymgyrchwyr iaith oedd yn protestio y tu allan i swyddfeydd y gorfforaeth yng Nghaerdydd.

Roedd grŵp o Gymdeithas yr Iaith yn protestio yno mewn ymateb i raglen ‘The Cost of Saving the Welsh Language’ y gyfres materion cyfoes, Week In Week Out.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, er bod y gyfres wedi tynnu ei hamcangyfrif “gwallus” o gost y Safonau Iaith o’i rhaglen, roedd hi dal yn “unochrog a rhagfarnllyd”.

Roedd darlledu’r rhaglen yn golygu bod y BBC wedi “torri’r gofynion sydd arni i fod yn ddiduedd”, yn ôl yr ymgyrchwyr.

‘Cwynion’

Dywedodd  llefarydd ar ran BBC Cymru: “Rydym wedi derbyn nifer o gwynion am ymchwiliad Week In Week Out, a ddarlledwyd ddydd Mawrth, Mai 24 a byddwn yn delio â hwy yn unol â threfn gwynion y BBC.

“Mae gan y tîm enw da am gynhyrchu adroddiadau o’r radd flaenaf ond rydym yn cydnabod na wnaeth yr ymchwiliad hwn archwilio’r gwahanol safbwyntiau yn ddigonol yn eu hymdriniaeth o’r Mesurau Iaith newydd.”

Problem sylfaenol

 

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Yn y bôn, ry’n ni’n credu bod  problem sylfaenol gyda chysyniad y rhaglen ac rydyn ni’n pryderu bod materion ehangach am ymdriniaeth y BBC o faterion sy’n ymwneud a’r Gymraeg sydd ddim yn cael eu hymdrin mewn ffordd digon ystyriol gan benaethiaid BBC Cymru.

“Dyna pam ein bod ni’n pwyso ar BBC Cymru i drefnu cyrsiau ymwybyddiaeth iaith i’w holl staff.”