Kevin Davies Llun: Heddlu Dyfed Powys
Mae’r heddlu yn chwilio Afon Tawe, ger canol dinas Abertawe, am ddyn busnes o bentref Llandysul.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi bod yn chwilio am Kevin Davies, 52, sydd â chysylltiadau ag ardal Abertawe.

Y gred yw ei fod wedi teithio mewn fan Mercedes Sprinter wen, â’r geiriau ‘Caffe Gioio’ arni mewn print mawr. Mae’r heddlu bellach wedi dod o hyd i’r cerbyd hwnnw ger Marina Abertawe.

Mae grŵp o swyddogion arbenigol yr heddlu yn parhau i chwilio yn Afon Tawe ag o’i hamgylch heddiw.

Mae Kevin Davies rhwng 5’6” a 5’7” o daldra, yn eithaf main, gyda gwallt golau. Mae’n gwisgo sbectol ac mae ganddo acen Cymraeg.

Mae gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am ei leoliad posib, gysylltu â Heddlu Dyfed Powys ar 101.