Mae gwraig cefnogwr tîm pêl-droed Abertawe a gafodd ei sathru i farwolaeth gan geffyl Heddlu De Swydd Efrog yn Rotherham yn 2000 wedi galw am adolygiad o’r achos, yn ôl y BBC.

Cafodd Terry Coles ei ladd ar ddiwrnod gêm y tu allan i stadiwm Millmoor yn Rotherham ar Fai 6, 2000 ac fe ddaeth crwner i’r casgliad y bu farw trwy ddamwain.

Mae cwmni cyfreithiol John Morse wedi galw am adolygiad ar sail casgliadau adolygiad nad oedd ar gael adeg y cwest.

Dywedodd Christine Coles ei bod hi wedi galw ar yr heddlu i “ail-ystyried” y dystiolaeth ac i “fynd i’r afael â’r mater”.

Dywedodd mai dyma’r “cyfle olaf” i ddarganfod beth yn union oedd wedi achosi marwolaeth ei gŵr.

Bu’n rhaid i’r heddlu wahanu cefnogwyr y ddau dîm y tu allan i’r stadiwm cyn y gêm a bu farw Terry Coles o anafiadau i’w stumog.

Clywodd y cwest yn Doncaster yn 2003 nad oedd modd osgoi ei farwolaeth, a bod Terry Coles wedi yfed pedair gwaith mwy na’r uchafswm alcohol ar gyfer gyrru pan gerddodd o flaen y ceffyl.

Daeth Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu i’r casgliad yn ddiweddarach bod tri phlismon wedi “methu yn eu dyletswydd” i sicrhau bod y cefnogwyr yn ddiogel.

Cafodd un o’r tri rybudd llafar ond ni chafodd y ddau arall eu cosbi gan eu bod nhw eisoes wedi cael ymddeol.

Aeth Christine Coles â’r achos i’r Uchel Lys yn 2005, ond ni dderbyniodd hi iawndal ar ôl colli.

Dydy Heddlu De Swydd Efrog ddim wedi gwneud sylw.