Kevin Davies Llun: Heddlu Dyfed Powys
Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth am leoliad dyn busnes lleol o ardal Llandysul yng Ngheredigion sydd ar goll.

Mae Kevin Davies, 52 oed, yn dod o bentref Llandysul, ond mae ganddo gysylltiadau yn ardal Abertawe.

Mae rhwng 5’6” a 5’7” o daldra, yn eithaf main, gyda gwallt golau. Mae’n gwisgo sbectol ac mae ganddo acen Cymraeg.

Y gred yw ei fod yn teithio mewn fan Mercedes Sprinter gwyn, gyda’r geiriau ‘Caffe Gioio’ mewn print mawr arni.

Mae gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am ei leoliad posib, gysylltu â Heddlu Dyfed Powys ar 101.