Cyffuriau cyfreithlon - legal highs ~(Llun: Y Gwasanaeth Iechyd)
Mae prosiect newydd cyntaf o’i fath yng Nghymru ar waith yn Sir Ddinbych i geisio gwybod mwy am effaith cyffuriau cyfreithlon ar bobol a chymunedau.

Elusen CAIS, sy’n helpu pobol sy’n ddibynnol ar gyffuriau neu alcohol, ar y cyd â Chyngor Sir Ddinbych a Hafal, fydd yn cynnal y cynllun COMS, sef gwaith ymchwil i achosion o broblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau.

Does dim gwybodaeth am effeithiau hirdymor y cyffuriau ar iechyd nac ar y gymdeithas eto, ond mae effeithiau tymor byr yn dangos eu bod yn achosi iselder, teimladau pryderus a seicosis.

Mae’r cyffuriau hefyd, yn ôl elusen CAIS, yn rhoi “llawer o straen” ar y galon ac ar system nerfau pobol.

Nod y prosiect, a fydd hefyd yn cynnig cymorth i bobol yn y sir sy’n defnyddio’r sylweddau “seicoactif” hyn, yw deall y cyffuriau’n well a gwella gwasanaethau i bobol sy’n gaeth iddyn nhw.

Bydd y gwaith ymchwil hefyd yn canfod pa mor gyffredin mae sylweddau o’r fath ar strydoedd Sir Ddinbych.

Effaith ar bobol

Yn ôl rheolwr y prosiect, Jeff Hughes, mae’r enw cyffuriau cyfreithlon, neu “legal highs” yn gwneud i bobol feddwl bod y cyffuriau yn llai peryglus nag y maen nhw.

“Y ffaith yw, gall bobol sy’n eu defnyddio ddim gwybod yn sicr pa gemegau maen nhw’n eu defnyddio neu ba effaith gallan nhw ei chael, yn enwedig ochr yn ochr â chyffuriau eraill neu alcohol,” meddai.

“Dydyn ni ddim yn gwybod beth sydd yn y (cyffuriau), ac felly allwn ni ddim deall yn llawn yr effaith gallan nhw gael ar bobol.”

Mae cynnwys y cyffuriau cyfreithlon hyn, sydd yn newid o hyd, yn ei wneud yn anodd i feddygon drin pobol sydd wedi eu cymryd.

Bydd cyfreithiau newydd yn dod i rym cyn hir i’w gwneud hi’n anghyfreithlon i werthu cyffuriau o’r math, ond mae pryderon hefyd y gallai hyn olygu y byddan nhw’n cael eu gwerthu ar y farchnad ddu.

“Bydd prosiect COMS yn rhoi dealltwriaeth well i ni o effeithiau cymdeithasol y cyffuriau hyn – yr effaith maen nhw wedi cael ar iechyd corfforol a meddyliol pobol, ar deuluoedd ac ar les ac ansawdd bywyd,” meddai prif weithredwr CAIS, Clive Wolfendale.