Gwaith dur Tata ym Mhort Talbot Llun: PA
Mae disgwyl i grwpiau sydd am brynu busnesau cwmni dur Tata Steel yn y DU gyflwyno eu cynigion heddiw, gyda rhestr fer o saith yn gwneud hynny.

Dim ond dau grŵp sydd wedi cael eu henwi hyd yn hyn, cwmni Liberty Steel o Brydain a grŵp o reolwyr a gweithwyr Tata, Excalibur, ac mae’n debyg eu bod wedi bod mewn trafodaethau.

Y gred yw y bydd y ddau grŵp yn cyflwyno cynigion ar wahân, a does ‘na ddim trafodaethau ffurfiol i uno.

Ond mae cynrychiolwyr o’r ddwy ochr wedi bod yn trafod, gan godi’r posibilrwydd o gydweithio neu uno cyn i Tata ddod at benderfyniad terfynol.

Nid yw Tata wedi gosod dyddiad cau cyhoeddus ar gyfer gwneud ceisiadau ond mae disgwyl y bydd yr holl gynigion yn cael eu hystyried gan fwrdd gweithredol y cwmni yn Mumbai ddydd Mercher.

Mae miloedd o swyddi yn dibynnu ar werthu busnesau’r cwmni yn y DU, gan gynnwys y safle dur ym Mhort Talbot, sy’n cyflogi tua 4,000 o weithwyr.

Bydd gweithwyr y diwydiant o ledled Prydain yn gorymdeithio yn Llundain ddydd Mercher i gadw pwysau ar y Llywodraeth a Tata i achub eu swyddi.

Sajid Javid yn teithio i Mumbai

Y gred yw bod Ysgrifennydd Busnes y DU, Sajid Javid, am deithio i Mumbai i drafod â’r cwmni, ar ôl i Lywodraeth Prydain gynnig buddsoddi yn y busnes, ar y cyd â phrynwr preifat.

Gyda’r penderfyniad yn agosáu, mae maes awyr Heathrow wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn defnyddio dur o Brydain, os bydd yn cael caniatâd i adeiladu rhedfa newydd.

“Diwrnod tyngedfennol”

“Mae heddiw yn ddiwrnod tyngedfennol i ddur yn y DU, sy’n ddiwydiant strategol hanfodol,” meddai ysgrifennydd busnes cysgodol Prydain, Angela Eagle.

“Rydym wir yn gobeithio y bydd cynnig addas yn dod, a fydd yn cadw’r safleoedd, y 15,000 o swyddi o ansawdd da, a’n capasiti i wneud dur domestig.

“Ond rhaid i’r Llywodraeth Dorïaidd fynd i’r afael â heriau sylfaenol y diwydiant – ar ynni, cyfraddau busnes, caffael, ac yn bwysicaf oll, atal dur o China rhag cael ei ddympio yma.”