Kirsty Williams
Mae cyfarfod arbennig o’r Democratiaid Rhyddfrydol heddiw yn Y Drenewydd, wedi rhoi cefnogaeth lethol i benodiad eu hunig Aelod Cynulliad yn Ysgrifennydd Addysg cabinet Llywodraeth Cymru.

Roedd y bleidlais yn rhoi caniatad i Kirsty Williams, AC Brycheiniog a Maesyfed, i gymryd ei lle yng nghabinet Carwyn Jones ym Mae Caerdydd.

“Fe fydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig nawr yn chwarae ein rhan yn y gwaith o ddelifro newid go iawn yn y ffordd y mae’r llywodraeth yn gweithio tros bobol Cymru,” meddai Kirsty Williams yn dilyn y bleidlais.

“Fe fydda’ i yn rhan o’r llywodraeth fel Democrat Rhyddfrydol, yn cael fy arwin gan ein gwerthoedd ni a’n haddewidion ni.

“Y gwerthodd hynny – o ddemocratiaeth, addysg i bawb ac o gyfartaledd – oedd y rhai canolog yn ein cynhadledd arbennig ni heddiw,” meddai Kirsty Williams wedyn.

“Mae’n hollbwysig fod aelodau’r blaid wedi cael y cyfle i drafod ac i bleidleisio ar y modd y bydd addewidion ein maniffesto ni yn cael eu gwireddu fel rhan o’r llywodraeth.

“Ryden ni wedi profi ein bod ni’n gallu dod o hyd i dir cyffredin gyda phleidiau a phobol eraill, ac mae ganddon ni’r uchelgais a’r hyder i gydweithio er lles Cymru.”