Cefn Sidan
Mae Parc Gwledig Pen-bre wedi ail-agor, wedi i ddyfais ffrwydrol gael ei darganfod yn gynharach ar Draeth Cefn Sidan gerllaw.

Mae Gwylwyr y Glannau wedi cadarnhau eu bod nhw’n parhau i weithio ar geisio sefydlu pa fath o ddyfais a olchwyd i’r lan. Mae uned difa bomiau’r Llynges Frenhinol wedi’i galw i asesu’r ddyfais sydd rhwng un droedfedd a throedfedd a hanner o hyd.

Mae rhannau o draeth Cefn Sidan yn parhau ar gau, wrth i’r gwaith o symud y ddyfais fynd rhagddo.