Cabinet newydd Carwyn Jones Llun: Llywodraeth Cymru
Mae Prif Weinidog newydd Cymru, a gafodd ei ail-ethol i’r swydd ddoe, wedi cyhoeddi aelodau ei gabinet prynhawn ma.
Kirsty Williams, unig AC y Democratiaid Rhyddfrydol, sydd wedi’i phenodi’n Ysgrifennydd Addysg, ac mae Alun Davies yn dychwelyd i’r Cabinet fel Gweinidog y Gymraeg a dysgu gydol oes.
Wrth gyhoeddi ei gabinet dywedodd y Prif Weinidog: “Mae’n bleser cael cyflwyno’r tîm a fydd yn symud Cymru ymlaen yn ystod y pum mlynedd nesaf.
“Bydd gan bob un rôl hanfodol wrth fynd ati i gyflawni ein blaenoriaethau, gan arwain a chyfarwyddo gwaith Llywodraeth Cymru ar ran pobl Cymru.
“Fel y dywedais yn fy natganiad i’r Cynulliad ddoe, bydd hon yn weinyddiaeth agored, gynhwysol a thryloyw, a fydd yn barod i gydweithio ag eraill pan fo hynny er budd y genedl.
“Mae pum mlynedd allweddol o’n blaenau ni. Fe fydda i, y Cabinet a’r Gweinidogion yn mynd ati’n ddiflino i wella ein heconomi a’r gwasanaethau cyhoeddus hanfodol y mae pobl Cymru yn dibynnu arnyn nhw bob dydd.
“Rydw i’n hyderus mai hwn yw’r tîm sydd â’r doniau, y weledigaeth a’r syniadau i roi cyfle i bawb, ac i adeiladu Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy – heddiw ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Terminoleg
Mae terminoleg y Cabinet newydd wedi newid hefyd, i ddilyn trefn San Steffan a Llywodraeth yr Alban.
Ysgrifenyddion sydd yn y Cabinet erbyn hyn, lle yn y gorffennol, roedden nhw’n cael eu galw’n Weinidogion.
Mae Dirprwy Weinidogion erbyn hyn yn cael eu galw’n Weinidogion dan y drefn newydd.
Y Cabinet:
Kirsty Williams
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Alun Davies
Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes
Ken Skates
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith
Vaughan Gethin
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
Carl Sargeant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
Jane Hutt
Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip
Julie James
Y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol