Mae Carwyn Jones wedi bod yn Brif Weinidog ers 2009 (llun:Senedd.tv)
Mae Carwyn Jones wedi cael ei gadarnhau yn Brif Weinidog Cymru yn ystod sesiwn yn y Senedd heddiw.

Cafodd enwebiad Leanne Wood ei dynnu’n ôl gan AC Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth, a hynny ar ôl iddyn nhw ddod i ddealltwriaeth â’r Blaid Lafur er mwyn caniatau i’w harweinydd nhw gymryd yr awenau.

Fe geisiodd AC UKIP Mark Reckless wrthwynebu’r penderfyniad gan ddweud nad oedd y rheolau’n caniatau i enwebiad gael ei thynnu nôl, ond cafodd hynny ei wrthod gan y Llywydd Elin Jones.

Mae’n golygu y bydd Carwyn Jones nawr yn arwain llywodraeth Lafur leiafrifol.

Llongyfarch y Llywydd

Ar ddechrau ei araith, fe wnaeth Carwyn Jones longyfarch Elin Jones ar gael ei hethol yn Llywydd y Cynulliad, ac fe ddywedodd ei bod hi eisoes wedi cael “bedydd tân”.

Wrth longyfarch Ann Jones ar gael ei hethol yn Ddirprwy Lywydd, dywedodd fod “colled Llafur Cymru’n elwa’r Cynulliad Cenedlaethol”.

Ar ôl troi ei sylw at dymor newydd y Cynulliad, dywedodd Carwyn Jones mai “camu ymlaen yn ofalus a gyda gwyleidd-dra” fyddai nod ei lywodraeth leiafrifol, ac y byddai’n rhaid iddi “fod yn fwy agored na’r un flaenorol”.

Blaenoriaethau

Wrth amlinellu blaenoriaethau’r llywodraeth newydd, dywedodd Carwyn Jones y byddai “ffocws diflino” ar y diwydiant dur, ac y bydden nhw’n ymgyrchu o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd na fyddai ei lywodraeth yn cynnig deddfwriaeth newydd am o leiaf 100 niwrnod, gan roi cyfle i’r Cynulliad newydd ymgartrefu.

Ond wrth gyfeirio at y ddeddfwriaeth fydd yn cael ei chyflwyno wedi hynny, awgrymodd fod Bil Iechyd y Cyhoedd a Deddf Iaith Gymraeg newydd ymhlith blaenoriaethau’r llywodraeth.

Ychwanegodd fod ei lywodraeth hefyd yn awyddus i weld Mesur Cymru’n dod i rym, ynghyd â sefydlu Swyddfa Gabinet newydd.

Cytundeb gyda Phlaid Cymru

Wrth gyfeirio at y trafodaethau a fu gyda Phlaid Cymru yn ystod yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Carwyn Jones y byddai nifer o’r polisïau sydd wedi cael eu trafod yn cael eu cyflwyno, gan gynnwys sefydlu tri phwyllgor newydd yn y Cynulliad.

Dywedodd nad oes “diffyg uchelgais a rhagoriaeth” yng Nghymru, ond bod angen gwireddu hynny yn ystod y tymor hwn yn y Cynulliad.

Wrth gloi ei araith, dywedodd ei bod hi’n “amser rhoi i bobol Cymru yr hyn y maen nhw’n ei ddisgwyl”.

Leanne Wood

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood eu bod nhw’n “derbyn” enwebiad Carwyn Jones i fod yn Brif Weinidog, ond nid yn ei “gefnogi”.

Meddai, “Un bleidlais yw hon i alluogi enwebiad Llafur i fynd rhagddo.”

Dywedodd nad oedd hi’n “flin am yr hyn ddigwyddodd yr wythnos diwethaf”, wrth iddi hi a Carwyn Jones orffen yn gyfartal o 29-29 yn y ras i fod yn Brif Weinidog, ac y byddai hi’n “ei wneud e eto”.

Dywedodd fod Llafur wedi bod yn “sarhaus” ac yn “hunanfoddhaol”.

“Fe wrthodon nhw oedi’r broses am wythnos. Fe gawson ni ein hwythnos ond roedd angen drama er mwyn cyrraedd y fan honno.”

Ychwanegodd na fyddai’r “pardduo” yn cael ei anghofio, gan ofyn “A ydych chi’n ddigon mawr i gyfaddef eich bod chi’n anghywir?”

Wrth drafod y diffyg clymbleidio rhwng Llafur a Phlaid Cymru, dywedodd Leanne Wood nad oes gan ei phlaid “ddiddordeb mewn seddi wrth fwrdd Cabinet rhywun arall”.

Galwodd hefyd am “ddiwylliant gwleidyddol newydd”.

Meddai, “Yr unig gerdyn y bydd Plaid Cymru’n ei chwarae yw cerdyn Cymru a byddwn ni’n ei chwarae heb gywilydd.”

Andrew RT Davies

Dechreuodd arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies ei araith yntau drwy longyfarch Llafur am gydnabod nad oes ganddyn nhw fwyafrif yn y Senedd.

Dywedodd fod gan Lafur yr “hawl i ffurfio llywodraeth” ond fe rybuddiodd y byddai’r Ceidwadwyr yn sicrhau eu bod nhw’n “atebol… ond mewn modd adeiladol”.

Wrth feirniadu Plaid Cymru am arafu’r broses o benodi Prif Weinidog, dywedodd y bu’n “Groundhog Day” drwy gydol yr wythnos.

Wrth gyfeirio at bolisïau’r llywodraeth newydd, galwodd ar Lafur i fynd ati i ail-drefnu’r cynghorau, un o brif feysydd Leighton Andrews yn y Cynulliad diwethaf.

Dywedodd fod “cyfle i lywodraeth newydd” fynd ati i ddatrys sefyllfa’r M4.

O ran y cytundeb rhwng Llafur a Phlaid Cymru, galwodd Andrew RT Davies am eglurdeb ynghylch y ffordd y byddai’n gweithio, gan ofyn pwy fyddai cynrychiolydd Plaid Cymru ar y tri phwyllgor newydd sy’n cael eu sefydlu.

Dymunodd yn dda i Carwyn Jones, a’i rybuddio fod “heriau o’n blaenau”.

Neil Hamilton

Yn ei araith gyntaf yn y Cynulliad ers dod yn arweinydd grŵp UKIP, dywedodd Neil Hamilton nad yw’r blaid yn “bwriadu bod yn ddinistriol” ac y bydden nhw’n “gwrthwynebu’r hyn y mae angen ei wrthwynebu”.

Dywedodd fod canlyniadau etholiadau’r Cynulliad yn profi nad oes gan Lafur fandad i lywodraethu, a bod saith Aelod Cynulliad newydd UKIP yn “haeddu cael eu trin â pharch”.

Ond roedd yn feirniadol o Kirsty Williams a Leanne Wood.

Cyhuddodd Kirsty Williams o “gynnal y weinyddiaeth simsan hon”, ac fe gyhuddodd Leanne Wood o “fradychu’r pleidleiswyr”.

Wrth gyfeirio at y ddwy gyda’i gilydd, ychwanegodd Hamilton eu bod nhw “wedi gwneud eu hunain yn ordderchwragedd gwleidyddol yn hareem Carwyn”.

Yn hytrach na “gwawr newydd”, dywedodd Hamilton fod gan Gymru “ddiffyg llwyr”.

Wrth ategu sylwadau Leighton Andrews, dywedodd Hamilton fod “Leanne Wood wedi profi ei bod hi’n ddêt tsiep iawn”.

Mwy i ddilyn…