Mae 18 o garafanau wedi cael eu difrodi yn dilyn tân mewn storfa yng Nghwmbrân yn ystod oriau man fore Mercher.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Ffordd Avondale y dref am 12.50yb ac fe barodd y tân am dair awr.

Roedd diffoddwyr o Gwmbrân, New Inn, Dyffryn ac Aberbargoed ar y safle ac fe gafodd y fflamau eu diffodd toc wedi 3.10 y bore.

Dywedodd llygad-dystion eu bod nhw wedi clywed ffrwydradau cyn bod modd gweld y fflamau o dai cyfagos.