Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i lofruddiaeth dyn 73 oed o Gwm Ogwr a ddigwyddodd rywbryd rhwng dydd Sul a dydd Llun, Mai 15 – 16.

Mae dyn lleol, 49 oed, wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, a hefyd ar amheuaeth o geisio llofruddio dynes 21 oed.

Cafodd yr heddlu eu galw tua 10.45yh nos Sul, ac mae’r ddynes wedi’i thrin am ei hanafiadau nad sy’n rhai sy’n ‘bygwth bywyd’.

Mae swyddogion yr heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai eu helpu gyda’u hymchwiliadau i gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Daclo’r Taclau ar 0800 555111 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 1600176350.