Bethan Jenkins AC Plaid Cymru
Mae’n debyg bod cynrychiolwyr Llafur a Phlaid Cymru wedi tynnu allan o raglen wleidyddol ITV Sharp End heno, gyda’r Ceidwadwyr Cymreig yn cyhuddo’r pleidiau o ddiffyg rhyddid barn ymhlith eu meinciau cefn.

Ymhlith y gwesteion oedd i fod i ymddangos ar y rhaglen sy’n trafod hynt a helynt gwleidyddiaeth Cymru, oedd Bethan Jenkins o Blaid Cymru, Alun Davies o Lafur, Neil Hamilton o UKIP ac Angela Burns o’r Ceidwadwyr.

Ond yn ôl adroddiadau, sydd heb eu cadarnhau gan Lafur na Phlaid Cymru eto, ni fydd Bethan Jenkins nac Alun Davies yno heno i siarad am y trafodaethau parhaus rhwng y ddwy blaid i geisio ethol Prif Weinidog newydd i Gymru.

Daw hyn wedi i Carwyn Jones fethu â sicrhau digon o bleidleisiau yn y siambr yr wythnos diwethaf i gael ei ailethol yn Brif Weinidog.

Fe gefnogodd Aelodau Cynulliad Ukip a’r Ceidwadwyr enwebiad Leanne Wood, ond cafwyd canlyniad cyfartal o 29 pleidlais yr un i Carwyn Jones ac arweinydd Plaid Cymru.

Cyhuddo Plaid a Llafur o guddio rhag y camerâu

Wrth ymateb i adroddiadau na fydd Plaid Cymru na Llafur yn ymuno â hi ar y rhaglen heno, cyhuddodd Angela Burns, AC y ddwy blaid o “gloi eu hunain i ffwrdd” yn hytrach na “siarad â phobol Cymru am eu cynlluniau.”

“Drwy gydol y broses, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn glir. Rydym wedi sefyll yn barod i ystyried gwleidyddiaeth gydweithredol o fath newydd, sy’n dod ag atebion cydsyniol i yrru ein cenedl ymlaen,” meddai.

Bygwth peidio ailadrodd pleidlais i Leanne Wood

 

Fe wnaeth yr AC dros Orllewin Caerfyrddin a De Penfro, ddweud hefyd na fydd y Ceidwadwyr yn rhoi pleidlais arall i Leanne Wood os nad yw Plaid Cymru yn “ystyried gwneud pethau’n wahanol”.

“Os nad yw pleidiau gwleidyddol yn rhannu ein huchelgais am ystyried sut allwn ni wneud pethau’n wahanol yng Nghymru, byddwn ni ddim yn ailadrodd ein pleidlais o ddydd Mercher (diwethaf),” meddai.

“Ar ôl treulio wythnosau yn dweud eu bod am weld newid, bydd pobol ledled Cymru yn cwestiynu cymhelliad gwleidyddion sy’n cuddio rhag y camerâu wrth iddyn nhw, o bosib, ystyried pum mlynedd arall o’r hen drefn.”