Ysgol Penfro (Llun yn y parth cyhoeddus)
Mae Heddlu Dyfed Powys yn cynnal ymchwiliad i farwolaeth bachgen 15 oed ger Ysgol Penfro yn Noc Penfro heddiw.

Dywed yr heddlu yn Sir Benfro eu bod yn ymchwilio i “farwolaeth drasig” y disgybl a bod ei deulu wedi cael gwybod.

Mewn datganiad dywedodd Cyngor Sir Benfro bod disgybl Blwyddyn 10 wedi cael ei gludo i’r ysbyty yn dilyn “digwyddiad difrifol” i’r de o’r ysgol ddydd Llun.

Mae’r crwner wedi’i hysbysu, meddai’r heddlu.

Mae swyddogion yr heddlu yn gweithio gyda’r ysgol i gynnig cefnogaeth i’r disgyblion eraill.

Mae’r ysgol yn parhau ar agor.

Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.