Neil Hamilton yw'r arweinydd newydd yn y Cynulliad
Mae aelod o UKIP yng Nghasnewydd wedi rhybuddio y gallai’r ffrae tros arweinyddiaeth y blaid yn y Cynulliad mewn perygl o “fynd â’r blaid yn ôl”.

Dywedodd James Peterson, ysgrifennydd y blaid yng Nghasnewydd, fod angen i UKIP “ddeall yr hyn y gwnaethon nhw ei addo wrth bobol Cymru”.

Dywedodd wrth raglen Sunday Politics BBC Cymru: “Rhaid i UKIP ddeall yr hyn y gwnaethon nhw ei addo wrth bobol Cymru ac rwy’n credu ei bod yn deg cymryd y byddai Nathan Gill yn bennaeth y blaid.”

Ond Neil Hamilton yw arweinydd y blaid yn y Cynulliad erbyn hyn, ar ôl iddo ennill pleidlais ymhlith y saith Aelod Cynulliad o 4 i 3.

Yn ôl Peterson: “Mae UKIP wedi ennill tir dros y blynyddoedd diwethaf ac rwy’n credu y gallai’r weithred hon arwain at y posibilrwydd o fynd â’r blaid am yn ôl ac fe fydd yn dadwneud yr holl waith ar lawr gwlad sydd wedi cael ei wneud gan Nathan a Nigel [Farage].”

Ond yn ôl Joe Smyth, ymgeisydd seneddol y blaid yn Islwyn y llynedd, mae Neil Hamilton yn “ŵr bonheddig”.

“Mae’n dod â llu o phrofiad a gwybodaeth. Fe fydd yna siom ond rhaid i ni fynd heibio hynny a meddwl beth ydyn ni am ei wneud dros y pum mlynedd nesaf.”