James Dean Bradfield a Nicky Wire o Manic Street Preachers gydag aelodau tim pel-droed Cymru Llun: CBDC
Mae’r Manic Street Preachers wedi cyhoeddi eu hanthem ar gyfer ymgyrch Cymru ym Mhencampwriaeth Ewro 2016 yn Ffrainc.

Gobaith y band byd-enwog, o’r Coed Duon, yw y bydd yr anthem swyddogol yn sicrhau bod Chris Coleman â’i dîm yn cael llwyddiant yn y gystadleuaeth.

Together Stronger (C’mon Wales) yw enw’r gân, ac mae chwaraewyr tîm Cymru yn ymddangos yn fideo’r gân, yn eu man hyfforddi yng Ngwesty’r Fro, Bro Morgannwg.

Cafodd ei gynhyrchu a’i chyfarwyddo gan Kieran Evans, y cyfarwyddwr o Dŷ Ddewi, sydd wedi gweithio gyda’r band o’r blaen.

Mae hanes pêl-droed yng Nghymru yn y fideo hefyd, sy’n nodi’r cyfnodau da diweddar, ac adegau yn ystod y 50 mlynedd diwethaf, lle na chafodd y tîm fawr o lwc yn y gamp.

Cytgan fachog

Mae’r gytgan fachog yn siŵr o aros ym mhennau sawl ffan o’i chlywed, gydag enwau Aaron Ramsay a Gareth Bale yn cael eu canu.

Bydd elw’r gân yn mynd tuag at Ymddiriedolaeth Princes Gate a Gofal Canser Tenovus.

Gallwch ei phrynu o iTunes neu Amazon o ddydd Gwener ymlaen.