Elin Jones, Llywydd y Cynulliad Llun: Cynulliad Cymru
Elin Jones o Blaid Cymru sydd wedi cael ei dewis ar gyfer swydd Llywydd y Cynulliad.
Roedd AC Ceredigion a’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi cael eu dewis ar gyfer y swydd.
Daeth i’r brig gyda 34 pleidlais, a 25 i Dafydd Elis-Thomas, gydag un aelod yn ymatal ei bleidlais.
Bydd Elin Jones yn olynu’r Fonesig Rosemary Butler.
Ann Jones o’r Blaid Lafur sydd wedi’i dewis ar gyfer swydd y Dirprwy Lywydd. Mae hi’n Aelod Cynulliad dros Ddyffryn Clwyd ac yn olynu David Melding.
Cafodd Ann Jones ei hethol o 30 pleidlais i 29 dros John Griffiths.
‘Llysgennad ardderchog’
Wrth dalu teyrnged i’w rhagflaenydd dywedodd Elin Jones: “Mae’r Fonesig Rosemary Butler wedi bod yn llysgennad ardderchog ar gyfer y Cynulliad dros y pum mlynedd diwethaf.
“Mae hi wedi chwalu’r rhwystrau i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd yng Nghymru, yn enwedig ymhlith menywod drwy ei hymgyrch Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus; i bobl ifanc drwy eu rhoi yn gadarn wrth wraidd busnes y Cynulliad a chreu mwy o gyfleoedd i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.
“Rwy’n edrych ymlaen at adeiladu ar ei llwyddiant hi wrth wneud y gwaith yr ydym ni, fel Aelodau’r Cynulliad, yn ei wneud yma yn y Senedd.”