Iestyn Tyne
Dros y penwythnos, fe wnaeth bachgen o Foduan ym Mhen Llŷn ennill ei gadair bellaf erioed, a hynny mewn Eisteddfod yn Nhrevelin yn y Wladfa.

Doedd Iestyn Tyne, sy’n astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ddim yn medru bod yn y seremoni gadeirio, ond dywedodd ei fod wedi bod yn dilyn y cyfan ar Twitter.

“Mae’r ymateb wedi bod yn wych,” meddai wrth golwg360 gan esbonio ei fod yn cynllunio’n awr sut i’w chael yn ôl i Gymru.

“Maen nhw ’di deud y byddan nhw’n ei chadw hi imi am faint bynnag o flynyddoedd fydd o’n cymryd imi sortio rhywbeth allan,” meddai.


Cadair Eisteddfod Trevelin (Llun: Menter Patagonia)
‘Cofio am eu heisteddfodau’

Esboniodd Iestyn Tyne, sydd hefyd yn aelod o’r grŵp gwerin Patrobas, ei fod wedi gweld y gystadleuaeth ar wefan cymdeithas Eisteddfodau Cymru, a “phenderfynu mynd amdani.”

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig cystadlu yng nghystadlaethau’r Wladfa, ac mae ’na amryw o bobl o Gymru wedi ennill o’r blaen yn enwedig yn Eisteddfod y Wladfa. Mae’r bobl ym Mhatagonia yn gwerthfawrogi ein bod ni’n cofio am eu heisteddfodau nhw ac yn eu cefnogi.”

Dyma’r wythfed gadair i’r bachgen 18 oed ei hennill, a cherdd yn y wers rydd sydd ganddo’r tro hwn, ar y testun Llwybrau.

 

“Wnes i sgwennu’r gerdd adeg wyna ar y ffarm, ac mae’n sôn am y ffin rhwng bywyd a marwolaeth yr adeg hynny o’r flwyddyn.”

Dydy Iestyn Tyne ddim wedi cael ei feirniadaeth eto, ond mae’n bosib na fydd rhaid iddo fynd ymhell am mai Karen Owen oedd beirniad y gystadleuaeth.

Dywedodd fod ganddo ddiddordeb yn y Wladfa erioed ac yn gobeithio trefnu taith yno’n fuan, “mae gen i fwy o reswm nag erioed i fynd rŵan.”