Fe fydd gan Chris Coleman bedair wythnos arall cyn gorfod penderfynu pwy yw'r 23 lwcus fydd yn cael mynd i Ffrainc (llun: CBDC)
Mae Chris Coleman wedi cyhoeddi carfan estynedig Cymru o 28 chwaraewr fydd yn mynd i ymarfer ym Mhortiwgal am wythnos er mwyn paratoi ar gyfer Ewro 2016.

Ond dyw Gareth Bale ddim wedi’i enwi gan fod Real Madrid yn chwarae yn ffeinal Cynghrair y Pencampwyr ar 28 Mai.

Mae Danny Ward, David Vaughan, Joe Ledley a Hal Robson-Kanu wedi cael eu cynnwys er gwaethaf mân anafiadau diweddar.

Ond does dim lle i chwaraewyr fel Shaun MacDonald, Morgan Fox, Andrew Crofts a Lloyd Isgrove sydd wedi bod yn y garfan yn ystod y misoedd diwethaf, gan olygu’u bod nhw bron yn sicr ddim am fynd i Ffrainc.

Bydd y garfan yn treulio amser yn ymarfer yn yr Algarve ac yna’n dychwelyd i Gymru cyn i’r garfan derfynol o 23 gael ei chyhoeddi ar 31 Mai.

Mae gan y tîm un gêm gyfeillgar baratoadol yn weddill, yn erbyn Sweden ar 5 Mehefin, cyn iddyn nhw herio Slofacia ym Mordeaux ar 10 Mehefin yn eu gêm gyntaf yn Ewro 2016.

Carfan estynedig Cymru

Wayne Hennessey, Danny Ward, Owain Fôn Williams

Chris Gunter, Ashley Richards, James Chester, Ashley Williams, James Collins, Ben Davies, Neil Taylor, Paul Dummett, Adam Henley, Adam Matthews

Joe Allen, Joe Ledley, Andy King, David Vaughan, David Edwards, Emyr Huws, Aaron Ramsey, Jonathan Williams, George Williams

Hal Robson-Kanu, Sam Vokes, Simon Church, Tom Lawrence, David Cotterill, Tom Bradshaw, Wes Burns