Carwyn Jones (Llun: Flickr/Cynulliad Cymru)
Bydd y 60 Aelod Cynulliad a gafodd eu hethol ddydd Iau diwethaf gan bobol Cymru yn cyfarfod am y tro cyntaf heddiw.

Gyda thymor newydd y Cynulliad yn dechrau, mae ‘na ansicrwydd ynghylch dyfodol arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn dilyn perfformiad y blaid yn yr etholiadau.

Mae dyfodol Andrew RT Davies yn y fantol, am i’r blaid fethu â sicrhau dim un o’i seddi targed a cholli tair sedd ranbarthol.

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Kirsty Williams, eisoes wedi ymddiswyddo o’i rôl ar ôl noson drychinebus i’w phlaid, a gollodd pob un, namyn un, o’i seddi.

Ffurfio llywodraeth

Yn y Senedd heddiw, mae disgwyl y bydd Carwyn Jones, arweinydd Llafur Cymru, yn cael ei ail-benodi’n Brif Weinidog.

Mae disgwyl iddo ffurfio llywodraeth leiafrifol heddiw hefyd, gan benodi ei gabinet newydd a’i weinidogion yn ddiweddarach, fydd â phortffolios mewn meysydd gwahanol fel iechyd, addysg ac amaethyddiaeth.

Ar ôl ennill 29 o seddi yn yr etholiadau, Llafur yw’r blaid fwyaf yn y siambr o hyd, ond mae’n ddwy sedd yn brin o ffurfio llywodraeth fwyafrifol.

Er hyn, mae Carwyn Jones wedi awgrymu na fydd yn ffurfio clymblaid ac mai sefydlu llywodraeth leiafrifol Llafur bydd yn gwneud.

Ethol Llywydd

Mae’n debyg na fydd cyhoeddiad swyddogol am y cabinet newydd tan o leiaf ddydd Mercher, pan mae disgwyl i Lywydd y Cynulliad gael ei ethol.

Os yw’r Cynulliad yn cytuno i enwebu un Aelod ar gyfer swydd y Llywydd, bydd pleidlais gyhoeddus yn y Siambr. Os caiff mwy nag un Aelod ei enwebu, pleidlais gudd fydd yn cael ei chynnal.