Mae dyn 23 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth milwr yn Aberhonddu ym Mhowys ddydd Sul.

Cafwyd hyd i’r milwr wedi’i anafu ac yn anymwybodol ar Stryd Lion yn Aberhonddu tua 1yb ddydd Sul, 8 Mai.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn bod y milwr  o Gatrawd Frenhinol Gibraltar.

“Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio ar hyn o bryd ac felly ni fyddai’n briodol i ni wneud sylw pellach ynglŷn â’r digwyddiad. Mae ein meddyliau gyda’i deulu a’i ffrindiau ac mae’r gatrawd yn gofyn i’w preifatrwydd gael ei barchu yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

Mae’r heddlu wedi cadarnhau erbyn hyn bod y milwr yn gwisgo ei lifrai pan gafodd ei ladd.

Dywedodd yr heddlu bod dyn 23 oed yn cael ei gadw yn y ddalfa ar amheuaeth o lofruddio a bod yr ymchwiliad yn parhau.

Mae’r heddlu wedi cau rhan o’r dref lle bu farw’r milwr wrth i’r ymchwiliad barhau.

Maen nhw’n apelio ar unrhyw un a oedd yn Stryd Lion, Sgwar Bethel, Stryd Tredegar a’r Stryd Fawr rhwng 12.30yb a 1.30yb ddydd Sul i gysylltu â nhw ar 101.