Cafodd dyn ei achub oddi ar yr Wyddfa brynhawn Sadwrn ar ôl syrthio tra’n cerdded.

Cafodd Heddlu’r Gogledd eu galw am oddeutu 4.30 y prynhawn, a chafodd y dyn ei achub gan hofrennydd.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, ond does dim manylion am ei gyflwr hyd yma.