Fe fydd pobol sydd am chwifio baner Cymru yn yr Eurovision eleni yn cael gwneud hynny wedi’r cwbl, ar ôl i drefnwyr y gystadleuaeth wneud tro pedol a diddymu eu gwaharddiad gwreiddiol.

Mae’r Eurovision wedi cyhoeddi y byddan nhw’n llacio’r rheolau ac yn caniatáu i faneri cenedlaethol, rhanbarthol a lleol gael eu chwifio.

Ar ddechrau’r wythnos, roedd y trefnwyr yn dweud bod nifer o faneri wedi cael eu gwahardd, oedd yn cynnwys Cymru, y Wladwriaeth Islamaidd, Gwlad y Basg a Phalesteina.

Roedd hyn, yn ôl y trefnwyr, i osgoi unrhyw “ddatganiadau gwleidyddol” yn ystod y gystadleuaeth.

Roedd y penderfyniad wedi cael cryn dipyn o feirniadaeth, gyda S4C yn galw am ei ail-ystyried a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ei alw’n “warth”.

Cafodd y newyddion ei groesawu gan Gyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, a wnaeth drydar: ‘penderfyniad cywir gan drefnwyr @Eurovsion heddiw i godi’r gwaharddiad yn dilyn trafodaeth â nifer o ddarlledwyr y digwyddiad’.

Mae’r penderfyniad yn newyddion da hefyd i’r sawl oedd am gefnogi Joe Woolford o Ruthun, sy’n cynrychioli Prydain gyda Jake Shakeshaft eleni.