Neil Hamilton
Mae un o Aelodau Cynulliad newydd UKIP wedi pwysleisio ei gysylltiad Cymreig y bore yma drwy ddweud ei fod yn “ymroddedig iawn i fy mamwlad”.

Fe gafodd Mostyn Neil Hamilton ei fagu yn Rhydaman a’i addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mewn cyfweliad ar Radio Wales dywedodd iddo gael ei “orfodi” i fynd “dramor” i Loegr er mwyn ei waith.

Cyfaddefodd y gwleidydd 67 mlwydd oed, a gollodd ei sedd fel AS Ceidwadol yn etholiad cyffredinol 1997, ei bod wastad yn uchelgais ganddo i ddychwelyd i wleidyddiaeth ers nifer o flynyddoedd bellach a’i fod yn credu ei bod hi’n “rhyfeddol” ei fod wedi llwyddo.

Hamilton v Gill

Er yr holl ddadlau am y ffordd dewiswyd ymgeiswyr UKIP yn etholiad y Cynulliad, dywedodd Neil Hamilton ei fod yn “edrych ymlaen” at weithio gydag arweinydd y blaid yng Nghymru, Nathan Gill, ac y byddai’n “gwneud ei orau” i wneud yn siŵr y bydd y blaid yn cydweithio ac osgoi “anawsterau mawr”.

Ychwanegodd ei fod wedi ymwneud â gwleidyddiaeth ers amser hir a bod rhai o’r pethau mae wedi ei weld – fel y ffraeo tros Ewrop yn y blaid Geidwadol yn y 1990au – yn gwneud i’r dadlau o fewn UKIP yng Nghymru’n ddiweddar edrych fel “chwarae plant”.

‘Gwrthwynebiad go-iawn’

Dywedodd Neil Hamilton nad oedd UKIP yn rhan o “sefydliad clud Bae Caerdydd” fel y pleidiau eraill ac y bydden nhw’n “rhoi eu barn eu hunain ar ddeddfwriaeth a pholisi a ddaw gerbron y Cynulliad, gan ymladd am y pethau sy’n wirioneddol bwysig i bobl yn eu bywydau a gwaith bob dydd.

“Mae cymaint o faterion y mae Llywodraeth Llundain a Llywodraeth Bae Caerdydd yn cytuno arnyn nhw, waeth pwy sydd mewn grym, a bydd UKIP yn darparu dewis arall a gwrthwynebiad go-iawn.”