Aled Roberts - un o'r collwyr (Llun G360)
Mae nifer o enwau amlwg wedi mynd a dod wrth i ganlyniadau cynta’r rhestrau rhanbarthol gael eu cyhoeddi yn etholiadau’r Cynulliad.

Y collwyr mawr yw’r Democratiaid Rhyddfrydol gydag aelodau profiadol fel Aled Roberts yng Ngogledd Cymru a Peter Black yng Ngorllewin De Cymru yn methu â chael seddi.

Erbyn hynny, roedd hi’n ymddangos yn sicr mai dim ond un aelod fyddai gan y Democratiaid Rhyddfrydol, eu harweinydd Kirsty Williams.

Ond i Blaid Cymru, fe fydd y cyn-AC, Dai Lloyd, yn dod yn ôl wrth iddyn nhw gipio dwy sedd yng Ngorllewin De Cymru.

Roedd hynny hefyd yn eu gwthio o flaen y Ceidwadwyr Cymreig o ran nifer seddi.

Yr enillwyr rhanbarthol mawr yw UKIP, a lwyddodd i gipio pump sedd yn y tair rhanbarth gynta’ ac un o’r rheiny yw’r cyn AS Ceidwadol o Loegr, Mark Reckless.