Carwyn Jones yn bwrw pleidlais ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Llun: Joe Giddens/PA
Mae dau o arweinwyr gwleidyddol Cymru wedi bwrw eu pleidlais yn etholiad y Cynulliad heddiw.
Aeth arweinydd Llafur Carwyn Jones i’w orsaf bleidleisio ym Mhen-y-bont ar Ogwr, tra bod Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru, wedi mynd i bleidleisio yng nghwmni ei rhieni, Avril a Jeff, ym Mhenygraig yn y Rhondda.
Mae Llafur yn gobeithio am bumed tymor yn y Cynulliad.
Arolwg barn
Er i ddau arolwg barn y Baromedr Cymreig blaenorol ddangos cynnydd ym mhoblogrwydd Plaid Cymru, roedd yr un olaf cyn yr etholiad a gyhoeddwyd nos Fercher yn dangos bod Llafur yn parhau i fod ar y blaen gyda 33%, er bod ei chefnogaeth ar ei hisaf ers chwe blynedd.
Roedd y Torïaid wedi cipio lle Plaid Cymru yn yr ail safle pan mae’n dod at ganran y bleidlais yn yr etholaethau ac yn ôl yr arolwg mae Plaid Cymru wedi colli tir gyda’r arolwg yn dangos cwymp o 2%.
Roedd yr arolwg gan YouGov ar gyfer ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd hefyd yn awgrymu y bydd UKIP yn ennill nifer o seddi rhanbarthol – cymaint ag un sedd ymhob un o bum rhanbarth Cymru o bosib.
Dyw’r rhagolygon ddim yn dda chwaith i’r Democratiaid Rhyddfrydol a’r Gwyrddion, gyda’r pôl yn awgrymu mai ychydig o ACau os o gwbl fydd ganddyn nhw yn y Cynulliad nesaf.
Comisiynwyr Heddlu a Throsedd
Bydd trigolion Cymry hefyd yn pleidleisio i ddewis pedwar o Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd ar gyfer y pedwar llu yng Nghymru am yr eilwaith.
Mae’r blychau pleidleisio ar agor o 7:00 y bore tan 10:00 yr hwyr.