(Llun: Ben Birchall/PA)
Mae’r cwmni Liberty House wedi cadarnhau eu bod yn bwriadu cyflwyno llythyr ffurfiol heddiw fel cynnig i brynu asedau dur Tata yn y Deyrnas Unedig.

Mae Liberty House, sy’n cael ei redeg gan Sanjeev Gupta, wedi dangos diddordeb mewn prynu’r gweithfeydd ers i gwmni dur Tata gyhoeddi y bydden nhw’n gwerthu eu safleoedd yn y DU yn dilyn colledion mawr yn y busnes.

Mae hyn yn cynnwys ei safle mwyaf yn y DU, Port Talbot, lle mae 4,000 o weithwyr yn cael eu cyflogi.

Yn ôl llefarydd ar ran Liberty House, maen nhw wedi sefydlu tîm o arbenigwyr mewnol ac allanol i lunio’r cynnig, ac mae’r tîm rheoli pryniant hefyd yn ystyried cyflwyno cynnig o dan yr enw Excalibur Steel UK Limited.

Mae’r bancwr buddsoddi, Mark Rhydderch-Roberts, wedi’i benodi’n gyfarwyddwr anweithredol, ac fe fydd yn ymuno â bwrdd o arbenigwyr gan gynnwys Stuart Wilkie, pennaeth busnes dur Tata yn y DU.

Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi addewid i gefnogi unrhyw brynwr fydd yn prynu’r busnes drwy ariannu hyd at chwarter o’r fenter, gan sicrhau hefyd bod miliynau o bunnoedd o gyllid ar gael.

Nid yw Tata wedi cyhoeddi dyddiad cau cyhoeddus ar gyfer unrhyw gytundeb, ond maen nhw wedi dweud na allan nhw gynnal y £1 miliwn o golled y dydd am gyfnod amhenodol.