Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi enw’r dyn 28 mlwydd oed a fu farw mewn damwain ffordd ger Yr Wyddgrug ddydd Sul.

Roedd Jonathan Philip Yeardley yn dod o Nannerch, nepell o safle’r gwrthdrawiad ar ffordd yr A541.

Mae un dyn arall yn dal i dderbyn triniaeth yn Ysbyty Stoke, ac mae’i gyflwr wedi’i ddisgrifio fel un “difrifol ond sefydlog”.

Mae person arall a gludwyd i Ysbyty Maelor Wrecsam wedi cael ei anfon adref.