Mae Prif Weinidog Cymru wedi ymosod ar y Ceidwadwyr mewn araith yn Wrecsam heddiw, ac wedi rhybuddio pobol Cymru rhag y “risg” o fotio dros Blaid Cymru. 

Wrth amlinellu’r “un dewis mawr” sy’n wynebu pleidleiswyr yng Nghymru ddydd Iau, Mai 5, mae Carwyn Jones yn cymharu etholiad Cynulliad 2016 gydag etholiadau 1945 ac 1997.

“Mae Llafur Cymru wedi gwneud popeth o fewn ein gallu ers 2011 er mwyn ceisio profi mai ni yw’r blaid iawn i drin yr economi,” meddai Carwyn Jones.

“R’yn ni wedi brwydro tros swyddi, wedi buddsoddi mewn isadeiledd ac mewn sgiliau… ac fe fyddwn ni’n arianno 100,000 o brentisiaethau y tro nesa’, yn ogystal a thorri trethi ar gyfer busnesau bychain.

“Beth yw’r dewis arall? Pleidleisio tros Gymru sy’n edrych i mewn arni hi’i hunan ac yn meddwl y gwaetha’ amdani’i hunan. Oherwydd dyna mae’r Toriaid, Plaid ac UKip yn annog pobol i wneud,” meddai Carwyn Jones wedyn.

“Mae rhai o’r brwydrau ffyrnicaf yn yr etholiad hwn rhwng rhwng Llafur Cymru a’r Ceidwadwyr. Efallai bod Plaid yn treial twyllo pobol i feddwl eu bod nhw yn y pictiwr hefyd… mae hynny oherwydd eu bod nhw mas o’r ras mewn cynifer o etholaethau.”

Ymosod ar ASau Gwyr a Dyffryn Clwyd 

Heb eu henwi’n bersonol, mae Carwyn Jones wedi ymosod ar ddau o Aelodau Seneddol y Ceidwadwyr Cymreig, a hynny mewn dwy ardal a allai fod yn allweddol o ran etholiad y Cynulliad ddydd Iau.

“Yr wythnos ddiwetha’, fe bleidleisiodd AS Ceidwadol Gwyr (Byron Davies, a drechodd Lafur o 27 pleidlais yn unig yn etholiad San Steffan 2015) yn erbyn croesawu plant di-rieni i ddod i’r Deyrnas Unedig fel ffoaduriaid,” meddai Carwyn Jones. “Cywilyddus. A rhag ei gywilydd.”

Ac yna, mae’n troi ei olygon at Aelod Seneddol Dyffryn Clwyd, James Davies.

“Mae o’n pleidleisio i wasgu ar undebau llafur,” meddai Carwyn Jones, “ac ar droi ysgolion yn academis, yn ogystal a thorri credydau treth i bobol mewn gwaith yn Rhyl a Phrestatyn.

“Felly, os ydych chi’n meddwl am fotio tros y Rhyddfrydwyr, Plaid neu’r Gwyrddion mewn etholaethau lle mae’n frwydr rhwng y Ceidwadwyr a ni, meddyliwch am y risg,” meddai.

“Meddyliwch am y risg o ddod a’r math yna o wleidyddiaeth i mewn i’r Cynulliad.”