Leanne Wood ar raggen Andrew Marr y bore yma (llun: Jeff Overs/BBC/Gwifren PA)
Dywed Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru, y bydd etholiad y Cynulliad ddydd Mawrth yn refferendwm ar y Gwasanaeth Iechyd ac yn ras dau geffyl rhwng Llafur a Phlaid Cymru.

Wrth siarad ar raglen Andew Marr ar BBC1 y bore yma, dywedodd ei bod yn ffyddiog fod y bwlch yn cau rhwng y ddwy blaid.

“Rydym wedi cael 17 mlynedd o un blaid yn rhedeg y llywodraeth yng Nghymru ac mae’n bryd cael newid,” meddai.

“Mae hon yn ras dau geffyl ac os oes ar bobl eisiau newid yna fe fydd yn rhaid iddyn nhw bleidleisio dros hynny.”

Annibyniaeth ‘ddim yn ddadl’

Gwrthododd yr awgrym fod arolwg barn diweddar yn dangos bod pobl Cymru wedi troi eu cefnau ar annibyniaeth, gyda 6% yn unig yn ei gefnogi.

“Dyw hon ddim yn ddadl sydd ymlaen ar hyn o bryd,” meddai.

“Y pethau allweddol y mae pobl yn siarad fwyaf amdanyn nhw yw’r gwasanaeth iechyd, y system addysg a’r economi.

“Dyna pam y bydd yr etholiad ymhen pedwar diwrnod yn refferendwm ar y Gwasanaeth Iechyd.”