Canlyiadau arholiadau (Llun: PA)
Fe fydd ymgyrchwyr iaith yn cyhuddo asiantaeth sy’n gosod arholiadau i bobol ifanc o weithredu yn “wrth-ddemocrataidd” mewn cyfarfod heddiw

Fe fydd Cymdeithas yr Iaith y dweud bod corff Cymwysterau Cymru yn “tanseilio’r llywodraeth” trwy barhau gydag arholiadau Cymraeg ail iaith, yn groes i ddatganiadau gan Brif Weinidog Cymru.

Yn ôl llefarydd ar ran y Gymdeithas roedd hi’n “warth ac yn sarhad” fod “tecnocratiaid” yn gweithredu fel hyn.

Y cefndir

Mae’r helynt wedi codi tros ddyfodol y syniad o Gymraeg ail-iaith mewn ysgolion ar ôl i’r Prif Weinidog Carwyn Jones ddweud y llyedd y byddai’r pwnc yn cael ei ddileu gan greu un pwnc Cymraeg ar gyfer pob lefel.

Ond, dair wythnos yn ôl, fe gyhoeddodd Cymwysterau Cymru ymgynghoriad oedd yn cynnig parhau â’r cymwysterau Cymraeg ail iaith gydag arholiad newydd yn dechrau ym mis Medi 2017.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, fe fyddai hynny’n groes i bolisi’r Llywodraeth ac yn wastraff amser gan fod cwricwlwm newydd ar gael i ysgolion y flwyddyn ganlynol, ym mis Medi 2018.

‘Cwbl wrth-ddemocrataidd’

“Mae ymddygiad Cymwysterau Cymru yn gwbl wrth-ddemocrataidd a byddwn ni’n mynnu eu bod yn dechrau o’r dechrau gydag ymgynghoriad newydd sy’n adlewyrchu polisi’r Llywodraeth,” meddai arweinydd Grŵp Addysg y Gymdeithas, Toni Schiavone, cyn y cyfarfod.

“Mae’r corff anetholedig hwn yn gweithredu’n gwbl groes i bolisi’r Llywodraeth, a’r consensws clir yn y Cynulliad Cenedlaethol, sydd am ddileu’r cysyniad o ddysgu’r Gymraeg fel ail iaith.”

Fe alwodd am arweiniad cry’ gan wleidyddion i wneud yn siŵr fod y syniad o Gymraeg ail-iaith yn dod i ben ac i ddileu ymgynghoriad Cymwysterau Cymru.