Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Llun: Gwefan y Ceidwadwyr
Mae Cynghorydd Tref yn Llandudno wedi symud o Blaid Cymru at y Ceidwadwyr Cymreig oherwydd ei fod wedi cael ei ddadrithio gan “fethiant Plaid Cymru i fynegi gweledigaeth ar gyfer newid, neu unrhyw uchelgais ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru”.

Yn ôl y Cynghorydd Greg Robbins, y Ceidwadwyr Cymreig yw’r “unig ddewis arall”  er mwyn osgoi pum mlynedd arall o “fethiant gan y Blaid Lafur.”

Mae’r Cynghorydd Greg Robbins yn ffigwr lleol adnabyddus ac yn gyn-Faer Llandudno.

‘Newid gwirioneddol’

Yn dilyn y cyhoeddiad, pwysleisiodd bod y posibilrwydd o Andrew RT Davies yn dod yn Brif Weinidog Cymru yn cynnig gobaith o “sicrhau newid gwirioneddol ar gyfer Gogledd Cymru, sy’n cael ei hanwybyddu’n rhy rhwydd gan sefydliad blinedig, clyd Bae Caerdydd”.

Dywedodd y Cynghorydd Greg Robbins: “Rwy’n falch iawn i ymuno â’r Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae Janet Finch-Saunders wedi bod yn ffigwr cyhoeddus gwych ar gyfer Aberconwy, gyda chofnod clir o gyflwyno newid fel y materion y traeth yma yn Llandudno. Rwyf hefyd wedi derbyn cymorth a chefnogaeth wych gan Guto Bebb AS a’i dîm gydag amryw o faterion sy’n effeithio ar etholwyr a busnesau lleol yn yr ardal.”

‘Uchelgeisiol’

Ychwanegodd: “O amddiffyn y GIG i gefnogi busnesau bach, mae maniffesto Ceidwadwyr Cymru yn ddogfen uchelgeisiol, gyffrous, ac yn profi mai’r blaid yw’r unig ddewis arall yn hytrach na phum mlynedd arall o fethiant gan Lafur.

“Rwyf wedi fy nadrithio â methiant Plaid Cymru i fynegi gweledigaeth ar gyfer newid, neu unrhyw uchelgais ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru, ac yn falch iawn i ymuno â phlaid all sicrhau newid gwirioneddol i Gymru, gydag arweinyddiaeth gref, a chynllun a fyddai’n dod â ffyniant i Gymru.”

Ychwanegodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies: “Mae’r Cynghorydd Greg Robbins yn weithiwr caled ac yn was cyhoeddus ymroddedig, ac rwy’n falch o’i groesawu i Blaid Geidwadol Cymru.

“Gyda Llafur dim ond un sedd i ffwrdd o golli rheolaeth, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn denu cefnogaeth newydd o bob rhan o Gymru.

“Mae’r Cynghorydd Robbins yn recriwt ffantastig ac yn ymuno â ni ar yr adeg fwyaf cyffrous, gydag etholiad Cynulliad dim ond saith niwrnod i ffwrdd a Chymru ar fin cael gwared ar Lafur am y tro cyntaf.”

‘Ceidwadwyr mewn panig’ 

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: “Mae Plaid Cymru wedi bod yn disgwyl y cyhoeddiad hwn am gryn amser ac felly nid yw’n syndod i ni.

“Serch hyn, mae’r amseru’n ddadlennol ac yn dangos fod y Ceidwadwyr mewn panig yn sgil eu cwymp yn y polau a’u amherthnasedd cynyddol yn yr etholiad hwn.”