Dyw Plaid Cymru ddim eisiau bod mewn clymblaid lywodraethol ar ol yr etholiad oni bai mai nhw sy'n ei harwain hi, meddai Adam Price
Mae Adam Price wedi dweud na fyddai wedi gallu “edrych yn y drych” petai wedi gwrthod y cyfle i geisio dychwelyd i reng flaen gwleidyddiaeth yng Nghymru eleni.

Fe fydd cyn-Aelod Seneddol Plaid Cymru yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn sefyll yn yr un etholaeth i geisio cael ei ethol i’r Cynulliad yng Nghaerdydd ar 5 Mai eleni.

Dywedodd wrth golwg360 ei fod wedi meddwl “yn hir ac yn ddwys” cyn penderfynu sefyll, ond ei fod wedi teimlo “cyfrifoldeb” i gyfrannu’r hyn oedd ganddo i’w gynnig i’r blaid.

Ond roedd rheswm arall hefyd dros ddychwelyd, yn ôl y gŵr sydd wedi’i ddisgrifio fel ‘mab darogan’ y cenedlaetholwyr ac arweinydd posib Plaid Cymru yn y dyfodol – cais gan ei fam.

Gallwch wrando ar y cyfweliad llawn ag Adam Price, sydd hefyd yn trafod gobeithion a gweledigaeth Plaid Cymru ar gyfer etholiadau’r Cynulliad, yn y fideo canlynol:

Cwestiynau Cyflym golwg360 i ymgeiswyr o bump o’r prif bleidiau: