Mae Clwb Pêl-droed Gresffordd wedi diswyddo un o’i chwaraewyr yn dilyn ei sylwadau sarhaus am drychineb Hillsborough ar wefannau cymdeithasol.

Mewn datganiad, dywedodd y clwb fod Jonny Taylor wedi cael ei ddiswyddo.

Dywedodd y clwb nad ydyn nhw’n “cymeradwyo unrhyw un o’r safbwyntiau a gafodd eu mynegi” gan Taylor “ac yn sicr ddim yn eu cefnogi nhw”.

Daeth y rheithgor yn y cwest i farwolaethau 96 o gefnogwyr Lerpwl yn Sheffield yn 1989 i’r casgliad ddoe y cawson nhw eu lladd yn anghyfreithlon.

Daeth y dyfarniad ar ôl cwest oedd wedi para dwy flynedd, yn dilyn argymhelliad panel annibynnol yn 2012 y dylid diddymu’r rheithfarn wreiddiol o farwolaeth drwy ddamwain.

Roedd y cwest yn feirniadol o Heddlu De Swydd Efrog, y gwasanaethau brys, peirianwyr stadiwm Hillsborough a nifer o unigolion eraill oedd ynghlwm wrth y trychineb gwaethaf yn hanes y byd pêl-droed yng ngwledydd Prydain.

‘Ymbellhau oddi wrth y sylwadau sarhaus’

Ychwanegodd Clwb Pêl-droed Gresffordd yn eu datganiad: “Rydym yn glwb teuluol ac mae gennym werthoedd eithriadol o dda, ac rydym yn dymuno manteisio ar y cyfle hwn i ymbellhau ein hunain oddi wrth y sylwadau sarhaus a wnaed gan yr unigolyn hwn.”

Mynegodd y clwb eu cydymdeimlad â theuluoedd a ffrindiau’r rhai fu farw.