Cafodd cwsmer mewn siop Starbucks yn Aberystwyth eu gorchymyn i “siarad Saesneg neu adael” gan aelod o staff, yn ôl cantores opera oedd yno ar yr un pryd.

Dywedodd Gwawr Edwards, sydd yn gantores soprano glasurol ac yn gyn-enillydd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen,  ei bod hi wedi bod yn dyst i’r digwyddiad.

Yn ôl y gantores, sydd yn wreiddiol o Geredigion, roedd hi’n “warth” fod yr aelod o staff wedi ceryddu’r cwsmer am geisio archebu coffi yn y Gymraeg.

Mae’r digwyddiad eisoes wedi cael ei feirniadu gan ymgyrchwyr iaith, ac mae Starbucks wedi dweud eu bod yn ymchwilio i’r mater.

‘Gwarth’

Yn dilyn y digwyddiad honedig fe bostiodd Gwawr Edwards neges ar Twitter yn dweud: “Gwarth mai ymateb un o staff @StarbucksAber oedd “speak English or get out” wrth gwsmer yn archebu yn iaith gwlad ei hunan! #tramorwr #sack”.

Fe esboniodd mewn negeseuon pellach fodd bynnag nad oedd hi’n nabod y cwsmer oedd wedi ceisio siarad Cymraeg, ac felly nad oedd hi’n bersonol wedi codi’r mater ymhellach ar y pryd.

‘Cwmnïau mawr yn diystyru’r Gymraeg’

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud y dylai Comisiynydd y Gymraeg “ymchwilio i arferion cwmni Starbucks” gan ddweud ei fod yn “anghyfreithlon ymyrryd â rhyddid pobl i siarad Cymraeg.”

Dywedodd Manon Elin, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Rydyn ni’n annog pawb i gefnogi busnesau annibynnol sydd yn cefnogi’r economi leol yn hytrach na’r cwmnïau mawrion. Mae digon o fusnesau bychain sydd yn gwneud ymdrech i barchu’r cymunedau maent yn gwasanaethu ynddynt yn Aberystwyth.

“Rydyn ni’n gweld drwy’r amser fod cwmnïau mawr yn diystyru’r Gymraeg drwy beidio â chynnig gwasanaeth Cymraeg, ond mae hyn dipyn mwy difrifol. Cyfrifoldeb y staff ydy dysgu’r Gymraeg i weini eu cwsmeriaid, nid disgwyl i’r cwsmer droi at y Saesneg.

“Os ydy cwmnïau mawr yn dod i drefi Cymreig dylen ni fod yn gallu disgwyl parch i’r Gymraeg. Rydym yn synnu fod y fath agwedd yn bodoli yn unrhyw le yng Nghymru yn yr 21ain ganrif, heb sôn am yn Aberystwyth.”

‘Cwbl annerbyniol’

Ychwanegodd: “Mae sylwadau o’r fath yn gwbl annerbyniol, a dylai Starbucks nid yn unig ymddiheuro, ond hefyd sicrhau bod eu holl weithwyr yn ymwybodol o bwysigrwydd cynnig gwasanaeth Gymraeg, a statws swyddogol yr iaith.

“Yn y pendraw, yr unig ffordd i sicrhau gwasanaeth Cymraeg cyflawn a pharch i’r Gymraeg ydy gorfodi’r cwmnïau mawrion drwy ddeddfu. Mae hi eisoes yn anghyfreithlon ymyrryd â rhyddid pobl i siarad Cymraeg, felly dylai Comisiynydd y Gymraeg ymchwilio i arferion cwmni Starbucks.”

Tolc i’r ‘ddelwedd’

Yn ôl Gwion ap Iago, a ddechreuodd ymgyrch leol yn erbyn dyfodiad Starbucks i Aberystwyth yn 2014, fyddai hi ddim yn syndod petai alwadau am foicotio’r cwmni yn codi unwaith eto yn sgil y digwyddiad honedig diweddaraf.

“Fi’n credu gwnaiff hynny ddigwydd – er, dyle pobl ddim wedi mynd yna yn y lle cyntaf yn fy marn i! Dyw e ddim yn mynd i helpu’u delwedd nhw [Starbucks] o gwbl,” meddai wrth golwg360.

“Fe wnaethon ni rannu fe ar ein tudalen ni gynnau ac mae wedi cael ymateb massive yn barod.

“Mae’n hollol ridiculous. Pan wnaethon nhw agor fe wnaethon nhw ffws mawr o gael arwyddion Cymraeg ar draws y siop, a misoedd lawr y lein maen nhw’n troi rownd wedyn a dweud ‘chi ddim yn cael siarad Cymraeg’.

“Mae’r un peth wedi digwydd mewn lot o lefydd, ble mae cwmnïau mawr yn dod mewn a dinistrio’r busnesau bach. Does dim yn cael ei roi nôl mewn i’r dre.”

Ymateb Starbucks

“Rydyn ni’n cymryd yr honiad yma o ddifrif gan fod unrhyw ddigwyddiad o’r fath yn annerbyniol yn Starbucks,” meddai Steve Whetton, rheolwr y siop yn Aberystwyth.

“Rydym ni wedi cysylltu â’r cwsmer dan sylw i ofyn am ragor o fanylion ar gyfer ein hymchwiliad.

“Rydym wedi ymrwymo i fod yn rhan o’r gymuned Gymraeg leol.

“O’r herwydd, mae gennym ni nifer o siaradwyr Cymraeg rhugl yn ein tîm ac wedi gweithio i gefnogi achosion lleol ers i ni agor yn 2014.

“Rydyn ni wastad wedi bod eisiau creu awyrgylch gynnes a chroesawgar i bawb allu’i fwynhau.”