Chernobyl
30 mlynedd wedi un o’r damweiniau niwclear gwaethaf erioed, bydd rhaglen Y Byd ar Bedwar yn Chernobyl i weld sut effaith gafodd y ffrwydrad ymbelydrol ar y bobol a’u cymunedau.

Yn y rhaglen, bydd y newyddiadurwr, Eifion Glyn, yn mynd yn ôl i’r ardal, gan grwydro’r pentrefi gwag gerllaw’r adweithydd, ac yn cyfarfod â rhai trigolion y bu’n ffilmio â nhw yn dilyn y ddamwain a gipiodd fywydau nifer.

Mae bellach yn anghyfreithlon byw mewn ardaloedd yng nghysgod yr adweithydd ymbelydrol a ffrwydrodd ar 26 Ebrill 1986 yn y pwerdy ger dinas Pripyat, gwaith oedd dan law’r hen Undeb Sofietaidd.

Fe ledodd yr ymbelydredd ar draws yr Undeb Sofietaidd ac Ewrop ac fe gymerodd hanner miliwn o weithwyr ac oddeutu 18 biliwn Ruble i gadw’r byd rhag llygredd pellach.

 ‘Ceisio dod o hyd i’r gwir’

Mae gwir effaith y chwalfa yn dal i fod yn fater dadleuol, gyda’r awdurdodau Sofietaidd ar y pryd yn mynnu mai  tua 50 o bobl yn unig fu farw yn sgil y trychineb a mudiadau ecolegol fel Greenpeace yn grediniol bod miloedd wedi marw o ganlyniad i’r ddamwain.

Wedi iddo fod yn Chernobyl ac ardaloedd cyfagos yn yr Wcrain yn yr 1980au a’r 1990au, bydd Eifion Glyn yn y wlad eto i geisio canfod y gwir am nifer y marwolaethau sydd wedi cael eu hachosi gan yr ymbelydredd.

“Mae mesur effeithiau’r ddamwain yn daten boeth ac mae gwleidyddiaeth niwclear yn faes cymhleth, ond un peth sy’n sicr mae’r ddamwain wedi cael effaith seicolegol ddofn ar bobl yr ardal a’r wlad,” meddai.

“Mae’r trawma yn dal yn amlwg ymysg y bobol wnes i gyfarfod.”

 “Chwerwder” yn bodoli o hyd

Bydd yn mynd ar drywydd nifer o bobl wnaeth gyfarfod yn ystod ei ymweliadau blaenorol, gan gynnwys Tatyana Lukina, un o sefydlwyr grŵp ymgyrchu Mamau Chernobyl a hen ffrind, Anatoli Artemenko, darlithydd mewn cyfrifiaduron o ardal Chernobyl.

“Mae’r Wcráin yn wlad mewn argyfwng enbyd yn wyneb y Rhyfel Cartref fu yno tan y cadoediad a’r tensiynau sy’n rhannu cefnogwyr Rwsia a’r Gorllewin ac mae tlodi mawr yno o hyd fel yr oedd pan es i yno ddiwethaf yn 1996,” ychwanegodd Eifion Glyn.

“Mae chwerwder mawr ymysg pobl ardal Chernobyl a theimlad cryf bod y byd wedi eu hanghofio.”

Atyniad twristaidd

“Roedd y cyfan yn agoriad llygad ac ymysg y lleoedd rhyfeddaf oedd dinas Pripyat; dyma’r ddinas fawr state-of-the-art Sofietaidd sydd nawr yn atyniad twristaidd rhyngwladol i ymwelwyr sydd am weld safle’r ddamwain niwclear fwyaf erioed.”

Bydd rhaglen Y Byd ar Bedwar: Cysgod Chernobyl ar S4C, nos Sul 24 Ebrill am 8 o’r gloch.