Canolfan Mileniwm Cymru (llun: Graham Well CC BY-SA 2.0)
Mae Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol wedi derbyn argymhelliad y Bwrdd Rheoli i fynd â’r Brifwyl i Fae Caerdydd mewn dwy flynedd.

Mewn cyfarfod yn Aberystwyth heddiw, penderfynwyd cynnal trafodaethau manwl gyda Chyngor Dinas Caerdydd, Canolfan y Mileniwm a phartneriaid eraill dros y misoedd nesaf.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod fod hyn yn ddechrau cyfnod o ystyried lleoliad gwahanol weithgareddau’r Eisteddfod, ac y bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd yn yr haf.

Mae’r penderfyniad heddiw yn debygol o arwain at gynnal Brifwyl heb faes traddodiadol am y tro cyntaf yn hanes modern yr Eisteddfod.

Mae’n debygol o fod yn Eisteddfod heb bafiliwn hefyd, oherwydd y disgwyl yw y byddai’r prif gystadlaethau’n cael eu cynnal yng Nghanolfan y Mileniwm os bydd y trafodaethau’n llwyddiannus.

Roedd yr Eisteddfod eisoes wedi cadarnhau mai yng Nghaerdydd y byddai’r Brifwyl yn 2018, ond heb benderfynu ar y safle.