Traeth Morfa Bychan
Mae disgwyl i Bwyllgor Iaith Cyngor Gwynedd gyfarfod yr wythnos nesaf i drafod cwyn sydd wedi dod i’r amlwg ynglŷn ag enw Saesneg sy’n cael ei ddefnyddio ar fap ar gyfer traeth Morfa Bychan yn ymyl Porthmadog.

Yr enw ‘Black Rock Sands’ sy’n cael ei ddefnyddio ar fapiau’r Arolwg Ordnans (AO), yn hytrach nag un o’r enwau Cymraeg ar gyfer yr ardal, sef ‘Traeth y Greigddu’ neu ‘Traeth Morfa Bychan.’

Mae’n debyg fod aelod o Gyngor Gwynedd wedi cadarnhau mai’r fersiwn Saesneg oedd yn cael ei ddefnyddio’n lleol, yn dilyn ymholiad gan yr AO ddechrau’r flwyddyn.

Mae Adroddiad Pwyllgor Iaith y Sir yn nodi – “nid oedd AO yn gallu cadarnhau pwy oedd y cyswllt yn y Cyngor, ond mae’n ymddangos eu bod wedi cymryd y cadarnhad o’r enw Saesneg fel caniatâd i’w ddefnyddio yn hytrach nag enw Cymraeg.”

‘Gwybodaeth leol’

Dywedodd llefarydd ar ran yr AO fod yr enw Saesneg wedi’i ddefnyddio ar y map “ers y 1950au ac nac oedden nhw’n siŵr pam fod hyn wedi codi nawr – mae’r enw ‘Black Rock Sands’ wedi ymddangos ar fapiau’r Arolwg Ordnans am sawl degawd,” ychwanegodd.

Er hyn, dywedodd y llefarydd eu bod nhw’n barod i gydweithio â Chyngor Gwynedd a’i fod “yn bwysig clywed gwybodaeth leol o ran enwau.

“Yn hanesyddol, dy’n ni ddim wedi defnyddio Traeth Morfa Bychan ar y map, ond fyddwn ni’n parhau i gydweithio â Chyngor Gwynedd ar y mater hwn.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd y bydd Pwyllgor Iaith y Cyngor yn trafod y mater ddydd Iau nesaf.

“Mae trafodaethau yn parhau gyda’r Arolwg Ordnans ynghylch yr enw y dylid ei ddefnyddio ar fapiau.”