Yr Athro Gwyn Thomas, Llun: S4C
Mae mwy o deyrngedau wedi’u rhoi i’r diweddar Athro Gwyn Thomas, yn dilyn y newyddion am ei farwolaeth yn 79 oed y bore ‘ma.

Yn ôl yr Athro Derec Llwyd Morgan, a oedd yn ffrindiau â’r bardd ac ysgolhaig o Flaenau Ffestiniog, fe oedd y “bardd gorau i ni weld yn ystod y trigain mlynedd ddiwethaf.”

“Roedd yn fardd gwreiddiol a’n fardd y mae pobol yn gallu ei ddarllen, beth bynnag yw eu cefndir nhw,” meddai.

Roedd Gwyn Thomas yn “ddyneiddiwr,” meddai, ac fel “Cristion pur”, yn caru ei gyd-ddyn ac yn ysgrifennu llawer am ddioddefaint pobol yn y byd, a oedd yn “gonsyrn mawr” iddo.

“Er mor wamal ac er mor ddoniol yw llawer iawn o’r farddoniaeth, yn y bôn, barddoniaeth ddynol yw hi, yn cydymdeimlo â thrueni’r ddaear fel petai.”

‘Cenhadaeth’

Disgrifiodd sut oedd ei waith yn hygyrch i bobol o bob cefndir gan ddweud mai “cenhadaeth” iddo oedd diweddaru gwaith y Cynfeirdd, y Mabinogi a gwaith Dafydd ap Gwilym.

“Roedd e’n berson gwylaidd iawn, byth yn canmol ei hunain. Person gweithgar, dim asgwrn diog yn perthyn iddo fe,” ychwanegodd Derec Llwyd Morgan.

“Mi oedd hefyd yn ddyn oedd yn hoff iawn o chwaraeon, mi roedd yn gricedwr ardderchog a chwaraewr tenis ardderchog. Mi fydden ni’n chwarae lot gyda’n gilydd ac yn mynd i gemau prawf Lloegr yn erbyn pobol eraill ym Manceinion.

“Mae’n drist iawn colli ffrind a cholli bardd mor fawr.”

“Cyfraniad amhrisiadwy y sgriptiwr toreithiog”

Mae Cadeirydd Awdurdod S4C, hefyd wedi talu teyrnged i’r llenor dylanwadol, gan ddweud bydd “colled fawr am ei waith a hiraeth am ei gwmni.”

“Trist iawn yw clywed am farwolaeth y llenor Gwyn Thomas,” meddai Huw Jones.

“Mae ei gyfraniad i’r celfyddydau yng Nghymru yn amhrisiadwy, a bydd ei ddylanwad yn parhau trwy ei gyfrolau niferus o farddoniaeth, dramâu a’i astudiaethau – a hefyd drwy’r llu o fyfyrwyr a gafodd eu hysbrydoli ganddo yn ystod ei ddegawdau fel Athro’r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.”

‘Cymwynaswr mor hoffus i’r iaith Gymraeg’

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: “Tra roedd Gwyn Thomas, fel mae eraill wedi sôn, yn ysgolhaig mawr; roedd ganddo hefyd y gallu i gyfleu gwybodaeth – am yr iaith, ei llên, ei gramadeg a’i hanes – mewn ffordd oedd yn ddealladwy ac yn ddifyr i drwch y boblogaeth.

“Fe wnaeth lawer i boblogeiddio’r Gymraeg ac fe ysgogodd genedlaethau o bobl ifanc i ymddiddori yn yr iaith a’i mwynhau.

“Wrth gydymdeimlo â’r teulu yn eu colled, hoffwn ddiolch am gymwynaswr mor hoffus i’r iaith Gymraeg.”

Byd y ffilm

Fel sgriptiwr toreithiog, fe addasodd Gwyn Thomas rhai o chwedlau’r Mabinogi ar gyfer ffilm animeiddiedig i S4C yn 2002, gyda’r actorion Matthew Rhys ac Ioan Gruffudd yn lleisio.

Yn 2006 fe enillodd wobr am ei gyfraniad i fyd y ffilm yng Nghymru, ac fe chwaraeodd ran flaenllaw yn nyddiau cynnar ffilmiau Cymraeg fel aelod o Fwrdd Ffilmiau Cymru.

Ef, ynghyd â’r cyfarwyddwr William Aaron, a gynhyrchodd y ffilm arswyd Gymraeg gyntaf yn 1981, O’r Ddaear Hen.

Yn deyrnged iddo, bydd y rhaglen Gwyn Thomas: Gŵr Geiriau, sy’n ddathliad o’i gyfraniad i lên Cymru, yn cael ei dangos eto ar S4C nos Sul yma, 17 Ebrill am 10yh o’r gloch.