Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod dau blismon wedi cael gorchymyn llys a’u gwahardd o’u gwaith yn dilyn honiadau am ymosodiadau a throseddau hanesyddol.

Yn ôl yr Uwch-arolygydd Dorian Lloyd, Pennaeth Safonau Proffesiynol: “Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi gorchymyn llys i ddau swyddog mewn cysylltiad â throseddau hanesyddol honedig yn erbyn swyddog oedd yn gwasanaethu ac a ddigwyddodd tua dwy flynedd yn ôl.”

Mae’r heddwas Jeremy Fowler, 39, wedi cael gorchymyn llys am ymosodiad rhywiol, a’r heddwas Mathew Davies, 37, wedi cael gorchymyn llys am ymosodiad, meddai’r heddlu.

Mae disgwyl iddyn nhw ymddangos o flaen Llys Ynadon Abertawe ar Fehefin 8 eleni.

Mae’r ddau wedi eu gwahardd o’r gwaith, a does dim manylion pellach wedi’i ryddhau hyd yn hyn.