Mae ymholiadau’r heddlu ar waith yn ardal Machynlleth ar ôl i ddau gorff gael eu canfod mewn tŷ ar gyrion y dre brynhawn dydd Sul.

Cafodd Heddlu Dyfed Powys eu galw i eiddo am 3.50yp bnawn ddoe yn dilyn adroddiadau am farwolaeth sydyn. Cafwyd hyd i gorff gwraig 51 oed yn y tŷ.

Ar ôl i’r heddlu fynd yno, fe ddaethon nhw o hyd i gorff dyn ar dir yr eiddo.

Mae ymchwiliad wedi dechrau i ddarganfod yr amgylchiadau y tu ôl i’w marwolaethau ac mae’r crwner wedi cael ei hysbysu.