Nathan Gill
Mae arweinydd UKIP yng Nghymru wedi amddiffyn un o ymgeiswyr y blaid ar ôl iddo ddod dan y lach am sylwadau diweddar, gan fynnu nad oedden nhw yn hiliol.

Fe achosodd Gareth Bennett, yr aelod uchaf ar restr UKIP yn rhanbarth Canol De Cymru ar gyfer etholiadau’r Cynulliad, ffrae fawr ar ôl beio problemau sbwriel Caerdydd ar fewnfudwyr.

Bu cwynion hyd yn oed gan aelodau ei blaid ei hun am y sylwadau, yn ogystal ag ymdrech aflwyddiannus i’w ddad-ddewis fel ymgeisydd.

Ond fe ddywedodd pennaeth UKIP yng Nghymru Nathan Gill heddiw nad oedd yn credu bod sylwadau Gareth Bennett yn hiliol – er nad oedd ef ei hun yn cytuno â nhw.

‘Sylwadau personol’

Mewn sylwadau diweddar wrth WalesOnline, roedd Gareth Bennett wedi dweud nad oedd gan “rai grwpiau ethnig … o bosib o ddwyrain Ewrop, ymwybyddiaeth o’r broblem hylendid sy’n cael ei hachosi” gan sbwriel yn y ddinas.

Awgrymodd hefyd bod mewnfudo wedi newid cymeriad rhannau o’r brifddinas gan greu tensiynau.

Heddiw fe ddywedodd Nathan Gill ar raglen Jason Mohammed ar Radio Wales mai “ei sylwadau ef oedd y rheiny” ac nad oedden nhw’n rhan o bolisi UKIP.

Ond fe ddywedodd arweinydd y blaid yng Nghymru bod “gormod o fewnfudo yn rhy sydyn” yn gallu peri problemau cymdeithasol.

‘Eisiau curo Plaid Cymru’

Mae disgwyl i UKIP ennill o leiaf llond llaw o seddi yn y Cynulliad ym mis Mai os yw’r polau piniwn diweddaraf yn agos ati, gyda Gareth Bennett a Nathan Gill bron yn sicr o fod yn eu plith.

Dywedodd Nathan Gill y byddai’n “hapus iawn” petaen nhw’n ennill chwech neu saith sedd, gan ddweud mai eu targed oedd dod yn drydydd a chael mwy o bleidleisiau na Phlaid Cymru.

Ond fe gyfaddefodd y byddai mwy na thebyg yn camu o’r neilltu fel arweinydd pe na bai’r blaid yn ennill unrhyw seddi ar y pumed o Fai.