Archesgob Cymru Dr Barry Morgan
Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi galw ar y llywodraeth i wneud mwy i sicrhau nad yw plant o gefndiroedd tlawd yn llwgu yn ystod gwyliau ysgol.

Ar hyn o bryd mae darpariaeth statudol sydd yn sicrhau bod plant difreintiedig yn cael prydau bwyd am ddim pan maen nhw yn yr ysgol.

Ond dyw hynny ddim yn parhau yn ystod y gwyliau, gan olygu fod y baich yn disgyn ar wirfoddolwyr i wneud yn siŵr nad yw disgyblion yn llwgu yn ystod yr wythnosau hynny.

Dros wyliau’r Pasg mae’r Eglwys yng Nghymru wedi bod yn darparu brechdanau i blant yn ardaloedd Rhyl a Wrecsam, gyda 150 o brydau bwyd yn cael eu paratoi ar un diwrnod yn Wrecsam.

Addewidion gwleidyddion

“Mae’n heglwysi ni wedi’u lleoli ym mhob cymuned yng Nghymru ac rydyn ni’n sylwi yn ystod gwyliau bod plant sy’n llwgu,” esboniodd Archesgob Cymru Dr Barry Morgan wrth raglen y Post Cyntaf ar Radio Cymru.

“Rhain yw’r plant sydd yn cael prydau bwyd am ddim yn yr ysgol yn ystod y tymor, ond sydd ddim yn cael bwyd yn ystod y gwyliau.”

Dywedodd Llywodraeth Lafur Cymru eu bod eisoes wedi cyflwyno grant er mwyn darparu cefnogaeth i ddisgyblion o’r cefndiroedd tlotaf.

Mae’r Ceidwadwyr, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a UKIP hefyd wedi dweud y bydden nhw’n gwneud mwy i gyllido cynllun bwydo neu ddod o hyd i sefydliadau eraill fyddai’n medru bod o gymorth.