Elfed Roberts
Mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi cadarnhau y bydd y brifwyl yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ymhen dwy flynedd yn 2018 – ond nid oes cadarnhad eto p’un ai fydd honno’n eisteddfod ddi-faes ai peidio.

Heddiw, wrth gyhoeddi’r rhestr o chwe safle sydd dan ystyriaeth ar gyfer eisteddfod Ceredigion yn 2020, mae Elfed Roberts wedi dweud wrth golwg360 “nad oes amheuaeth” ynglyn ag ymweld â’r brifddinas yn 2018.

Ers mis Tachwedd roedd caredigion yr Eisteddfod yng Ngheredigion wedi bod yn barod i sefyll yn y bwlch a chymryd cyfrifoldeb am gynnal prifwyl 2018, pe bai’r trafodaethau ynglyn â chynnal digwyddiadau ar hyd a lled Caerdydd yn syrthio trwodd.

Ond, mae Elfed Roberts yn dweud “nad oes dim cysylltiad” rhwng y cyhoeddiad heddiw a threfniadau Caerdydd 2018.

“Mae’r broses yna yn mynd yn ei blaen,” meddai. “Mae gynnon ni gyfarfodydd yr wythnos yma, ac wedyn rydan ni’n gobeithio cael trafodaeth a chyflwyno adroddiad i’r bwrdd rheoli’r wythnos nesa’.

“Mae Cyngor Caerdydd wedi dweud ar hyd y cyfnod eu bod nhw’n awyddus i weld yr Eisteddfod yn dod i Gaerdydd yn 2018 – ac mae hynny’n dal yn nod inni,” meddai wedyn.

Mae disgwyl i Fwrdd Gweithredol yr Eisteddfod gyfarfod i drafod y datblygiadau cyn y bydd argymhellion yn cael eu cyflwyno i Gyngor y brifwyl yn Aberystwyth ar Ebrill 17.

Ceredigion 2020 – chwe maes dan ystyriaeth

* Llanbedr Pont Steffan;

* Llanbadarn Fawr ger Aberystwyth;

* Tregaron;

* Aberteifi;

* Ciliau Aeron;

* Llansantffraid ger Llan-non.

“Fyddwn ni ddim mewn sefyllfa i wneud penderfyniad sydyn ar ba un o’r chwe da ni’n ffafrio – mae’n mynd i gymryd dipyn o amser,” meddai Elfed Roberts.

Mae angen 140 erw o dir i gynnal yr Eisteddfod, ynghyd ag addasrwydd i ddarparu cysylltiadau trydan, band llydan, rhwydwaith ffôn symudol a chyflenwad trydan, dŵr a charthffosiaeth.