Mae ap newydd ar-lein yn cael ei lansio heddiw i alluogi pleidleiswyr i ddewis y blaid wleidyddol sy’n cyd-fynd orau â’u safbwyntiau gwleidyddol.

Ap ar-lein newydd sbon yw WalesVote16.com sy’n galluogi pleidleiswyr i gymharu eu barn â safbwyntiau polisi’r prif bleidiau gwleidyddol fydd yn cymryd rhan yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 5 Mai.

Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd wedi creu’r ap mewn partneriaeth â chydweithwyr yn y Swistir.

Cafodd ei datblygu ochr yn ochr ag apiau tebyg ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon cyn yr etholiadau datganoledig a gynhelir yn y gwledydd hynny.

Ateb cwestiynau

Mae WalesVote16 yn cynnig nifer o ganlyniadau ar sail gwahanol ddulliau sy’n cyfrifo sut mae defnyddwyr a’r pleidiau gwleidyddol yn cyfateb.

Nid yw’r ap wedi’i ddylunio i ddweud wrth ddinasyddion sut y dylent bleidleisio; y cyfan mae’n ei wneud yw eu galluogi i weld ble maent yn sefyll o’u cymharu â’r prif bleidiau ar draws amrywiaeth o faterion polisi.

Mae’r ap yn gweithio drwy gymryd safbwyntiau pleidiau gwleidyddol ar sawl mater blaenllaw. Mae’r defnyddwyr sy’n ymweld â’r wefan yn mynegi eu barn wleidyddol ynghylch yr un materion polisi drwy ateb holiadur.

Yna mae’r ap yn cyfateb atebion y pleidiau ag atebion y defnyddiwr. Mae’r canlyniadau’n dangos pa mor bell neu agos yw’r gwahanol bleidiau gwleidyddol i’r defnyddiwr.

‘Prosiect academaidd’

Wrth sôn am lansio WalesVote16.com, dywedodd yr Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd: “Pleser o’r mwyaf i ni yw lansio WalesVote16.com cyn etholiadau’r Cynulliad a gynhelir cyn bo hir.

“Diben yr ap yw helpu pleidleiswyr wrth ystyried pwy i bleidleisio drostynt ar sail eu safbwyntiau eu hunain ynghylch materion polisi fel addysg, iechyd, mewnfudo a datganoli.

“Prosiect academaidd yn unig yw’r ap, ac nid yw’n gysylltiedig ag unrhyw blaid neu fudiad gwleidyddol.

“Gyda lwc, bydd defnyddwyr yn manteisio ar yr ap a bydd yn cyfrannu at greu gwell ymwybyddiaeth o’r etholiad cyn y diwrnod pleidleisio.”