Yr Athro Dai Smith
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud fod yn rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru geisio “ailadeiladu eu perthynas” â’r diwydiannau creadigol.
Daeth y sylw wedi i’r Athro Dai Smith, sy’n gadael ei swydd fel cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru ar ôl naw mlynedd wrth y llyw, ddweud wrth y BBC fod ymagwedd Llywodraeth Lafur Cymru i’r diwydiannau creadigol yn “Philistaidd ar adegau”.
Meddai llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros ddiwylliant, Suzy Davies AC, fod ymyrraeth Dai Smith yn “ddamniol” a bod angen gwneud yn fawr o’r dalent sydd yng Nghymru.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn dosbarthu arian cyhoeddus a grantiau’r loteri i sefydliadau celfyddydol ond mae’r arian y mae’r corff yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru wedi cael ei gwtogi dros y blynyddoedd diwethaf.
‘Ymyriad damniol’
Meddai Suzy Davies AC: “Mae hwn yn ymyriad damniol gan gadeirydd ymadawol Cyngor y Celfyddydau.
“Mae’r Athro Smith yn gywir i ddweud bod y diwydiannau creadigol yn cyflwyno cyfle enfawr i Gymru. A gyda chymaint o dalent gynhenid, byddai’n wastraff peidio â gwneud y mwyaf ohono.
“Ni ddylai Gweinidogion gyhoeddi dictadau gweithredol at gorff hyd braich fel Cyngor Celfyddydau Cymru – yn enwedig pan mae hi’n glir eu bod nhw’n anghywir.
“Mae’n dangos diffyg meddwl a bydd angen i Lywodraeth nesaf Cymru ailadeiladu’r berthynas gyda chwmnïau ffilm a theledu, yn ogystal â Chyngor y Celfyddydau ei hun,” meddai.
Dr Phil George fydd yn olynu’r Athro Dai Smith fel cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru.
Nid oedd Llywodraeth Cymru am wneud sylw ar y mater.