Mark Drakeford
Bydd timau penodedig yn cael eu sefydlu yn ysbytai Cymru i ddarparu cefnogaeth ymarferol i bobl ag anghenion iechyd meddwl.

Meddai Llywodraeth Cymru fod y cynllun yn cael ei gyllido gan ran o’r £30 miliwn sydd wedi ei glustnodi ar gyfer iechyd meddwl a phobl hŷn yn 2016-17.

Bydd £2.3 miliwn yn cael ei wario ar greu’r timau newydd o staff a fydd yn darparu cefnogaeth ychwanegol, yn enwedig gyda’r nos ac yn ystod y nos, ar gyfer pobl ag anghenion iechyd meddwl, yn cynnwys dementia.

Yn ogystal, bydd £1.5 miliwn ychwanegol ar gael i ddarparu cymorth iechyd meddwl yn lleol a bydd £1.15 miliwn yn cael ei wario ar therapïau seicolegol.

‘Ymrwymiad y llywodraeth’

Dywedodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford:

“Iechyd meddwl yw sylfaen pob iechyd. Gall un o bob pedwar ohonom ddisgwyl dioddef o salwch meddwl ar ryw adeg yn ein bywydau.

“Dyna pam rydym yn buddsoddi mwy nag erioed yn y gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru – mae hyn yn arwydd clir o ymrwymiad y llywodraeth hon i wella iechyd a lles meddyliol pobl ledled y wlad.

“Bydd hyn yn darparu cefnogaeth yn y gymuned i bobl â dementia a’u teuluoedd, ymhlith grwpiau eraill.”