Mae darn arian £1 newydd wedi dechrau cael ei gynhyrchu yng Nghymru, flwyddyn union cyn iddi ddechrau cyrraedd pocedi pobl.

Mae’r darnau newydd, sydd â 12 ochr,  yn cael eu cynhyrchu ar gyfradd o fwy na 4,000 munud.

Dywedodd y Canghellor George Osborne yn y Gyllideb y bydd yr arian yn mynd i gylchrediad cyhoeddus yn mis Mawrth 2017.

Pan fydd y darnau punt newydd yn cael eu cyflwyno, bydd cyfnod o chwe mis pan fydd y darnau arian punt cyfredol a’r rhai newydd mewn cylchrediad a’i gilydd. Bydd angen i fusnesau sy’n trin arian parod gynllunio a pharatoi ar gyfer y darnau arian newydd.

‘Darnau arian ffug’

Mae’r darnau yn cael eu cynhyrchu ym mhencadlys y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant ac mae’r darn punt yn cael ei newid am y tro cyntaf mewn mwy na 30 mlynedd oherwydd ei fod yn weddol hawdd i’w ffugio.

Mae rhai’n amcangyfrif bod tua tri darn punt ym mhob 100 wedi cael eu ffugio, sy’n golygu bod tua 45 miliwn ohonynt sydd mewn cylchrediad yn ffug.

Dywedodd y Canghellor George Osborne: “Rwy’ wrth fy modd fod y Bathdy Brenhinol bellach yn cynhyrchu y darn arian mwyaf diogel yn y byd.

“Gyda thechnoleg arloesol, a ddatblygwyd yng Nghymru, bydd y darn arian newydd yn helpu i sicrhau ein heconomi a chael gwared o ddarnau arian ffug.”