Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru wedi ysgrifennu at Lywydd y Cynulliad er mwyn gwneud cais ffurfiol i ail-ymgynnull y Cynulliad yn dilyn yr argyfwng dur sy’n wynebu’r safle ym Mhort Talbot.

Dywedodd Carwyn Jones y byddai sesiwn llawn o’r Cynulliad yn rhoi cyfle i aelodau “ystyried goblygiadau penderfyniad Tata.”

Mae’r cwmni dur bellach wedi cadarnhau ei fwriad i werthu ei holl safleoedd yn y DU gan gynnwys y safle ym Mhort Talbot, sy’n cyflogi dros 3,000 o weithwyr.

Mae’r safleoedd eraill yn cynnwys gweithfeydd yn Llanwern ger Casnewydd, Trostre ger Llanelli a Shotton yn y gogledd-ddwyrain.

Does dim sicrwydd y bydd prynwr ar gyfer y safle ym Mhort Talbot, ond mae rhai cwmnïau posib wedi’u henwi ac mae Llywodraeth Prydain wedi awgrymu y gallai ymyrryd yn uniongyrchol ac yn cefnogi cynllun undebau ac uwch-reolwyr i  brynu’r safle.

Mae Llywodraeth Prydain wedi galw ar Tata i roi digon o amser iddyn nhw ddod o hyd i brynwr i’r safle gan ddweud y gallai “gymryd misoedd.”

Galwadau ar y llywodraethau

Wrth ymateb i benderfyniad Tata, cyhoeddodd Llywodraethau Cymru a’r DU ddatganiad ar y cyd, gan ddweud y byddan nhw’n “gweithio’n ddiflino” i sicrhau dyfodol i’r diwydiant dur yng Nghymru ac yng ngweddill Prydain.

Mae pwysau ar y llywodraethau i dorri trethi busnes, lleihau costau ynni a thaclo’r broblem o ddur rhad o China yn Ewrop.

Mae nifer gynyddol o wleidyddion, gan gynnwys rhai o Blaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, hefyd wedi galw ar Lywodraeth Prydain i wladoli’r diwydiant os bydd rhaid.

Cyfarfod llawn – 4 Ebrill?

Os bydd cais y Prif Weinidog yn cael ei gymeradwyo gan y Llywydd, Rosemary Butler, mae’n debygol bydd y cyfarfod llawn yn cael ei gynnal dydd Llun, 4 Ebrill.