Y dyn y Premier Shop (Llun: Heddlu Dyfed-Powys)
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi rhyddhau lluniau teledu cylch cyfyng o’r dyn y maen nhw’n chwilio amdano yn dilyn lladrad o siop ar Rodfa’r Gogledd, Aberystwyth ddoe.

Fe ddigwyddodd y lladrad tua 8.40yh, yn siop Premier Shop. Fe ddihangodd y dyn yn y llun o’r siop, gan droi am Stryd Thesbis.

Roedd yn gwisgo hwdi las a llwyd, masg sgio neu gogls mawr, ac mae’n ymddangos y gallai fod hefyd yn gwisgo balaclafa am ei ben.

Dylai unrhyw un sydd a gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu ar y rhif 101, neu gysylltu’n ddienw efo llinell Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.